Helpu Neuaddau
Lansiwyd y Prosiect Helpu Neuaddau ym mis Mawrth 2020 gan gonsortiwm o gynghorau cymuned a neuaddau lleol, i gefnogi neuaddau cymunedol ledled Sir Benfro. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, fe wnaeth 4 neuadd elwa o’r Prosiect (Neuadd Boncath, Canolfan Clydau, Neuadd Bwlchygroes a Chanolfan Hermon) ac, ar ôl sicrhau cyllid ychwanegol, fe lwyddodd y prosiect i fwrw ymlaen â’i ail flwyddyn ac erbyn hyn mae’n cefnogi 6 neuadd arall, sef Cilgerran, Aber-cuch, Neuadd Eglwys Llandudoch, Llanddewi Felffre a Chasnewydd Bach). Mae’r gwaith yn parhau gyda dwy neuadd arall (Eglwyswrw a Maenclochog) wrth i’r prosiect ehangu.

Y neuaddau yn y llun yw’r pedair neuadd wreiddiol ac maent fel a ganlyn:
Chwith uchaf: Clydau; Dde uchaf: Hermon;
Chwith isaf: Boncath; Dde isaf: Bwlchygroes
Mae Helpu Neuaddau yn cynnig cymorth mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys trwy helpu i gael gafael ar gyllid, recriwtio gwirfoddolwyr, cyngor a chymorth gweinyddol, rhannu arfer da a syniadau rhwng neuaddau. Mae’r prosiect hefyd yn gyswllt rhwng y neuaddau, yn ogystal â chyrff a sefydliadau eraill, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu a’i bod yn cyrraedd y gynulleidfa fwriadedig. Ariennir y prosiect gan grant oddi wrth gronfa Gwella Sir Benfro Cyngor Sir Penfro a grant y Loteri Genedlaethol.
Mae’r Prosiect yn parhau i esblygu ac addasu i anghenion y neuaddau cymunedol, a bydd yn ceisio ehangu ei wasanaethau a chynnig cymorth i fwy o neuaddau yn y dyfodol.

Dywedodd y Swyddog Prosiect Kerry Killick "Rwy’n cynnig i neuaddau gysylltu â fi’n uniongyrchol, os ydyn nhw’n meddwl y gallwn eu helpu. Rwy’n cynyddu’r niferoedd wrth i fi fynd ac fel fy mod i’n gallu, gan ddibynnu ar eu hanghenion, nid oes unrhyw feini prawf am fy mod i’n ceisio cynnwys pob neuadd ac rwy’n eu hannog i gyfranogi er mwyn helpu ei gilydd, rhannu adnoddau a chydweithio".
Cysylltwch â Kerry ar [email protected]